Gwybodaeth amdanom ni
Mae Fferm Wynt Alltraeth Morecambe (y cyfeirir ati drwy’r llyfryn hwn fel ‘y Prosiect’) yn cael ei chyflwyno fel menter ar y cyd rhwng Cobra Instalaciones y Servicos, S.A. (Cobra), a Flotation Energy Limited.
Gwybodaeth am Cobra
Mae Cobra yn arwain y byd o ran datblygu, adeiladu a rheoli seilwaith diwydiannol a phrosiectau ynni, gyda mwy na 75 mlynedd o brofiad.
Gwybodaeth am Flotation Energy
Mae Flotation Energy yn gwmni datblygu gwynt alltraeth yn y Deyrnas Unedig, sydd â llif cynyddol o brosiectau gwynt ar y môr. Mae tîm Flotation Energy yn arbenigo ar y gwaith o reoli prosiect a pheirianneg prosiectau seilwaith mawr.
Pwysigrwydd ynni adnewyddadwy
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gynlluniau uchelgeisiol a fydd yn sicrhau bod y wlad yn flaenllaw yn y frwydr dros ddyfodol mwy gwyrdd. Fel rhan o’r cynlluniau hyn, bydd angen i ni fel cymdeithas leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i Sero Net erbyn 2050.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i ni newid y ffordd rydym yn gwresogi ein cartrefi, yn pweru ein cerbydau ac, yn bwysig iawn, y ffordd rydym yn cynhyrchu ein trydan.
Mae ynni adnewyddadwy yn ganolog i gefnogi uchelgais y DU i arwain y byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a chroesawu dyfodol lle mae ynni adnewyddadwy yn pweru ein cartrefi a’n busnesau.
Er mwyn cyflawni ein nodau hinsawdd, mae angen i ni gynhyrchu bedair gwaith yn fwy o ynni gwynt ar y môr – sy’n golygu gosod a gweithredu capasiti 50GW erbyn 2030.
Delweddau
Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.
Gweld map