Rhyngweithio â defnyddwyr morol eraill

Rydyn ni wedi cynnal amrywiaeth o asesiadau yn ardal ein hastudiaeth i weld sut gallai safle ein fferm wynt arfaethedig effeithio o bosibl ar ddefnyddwyr a diwydiannau eraill. Er enghraifft, pysgodfeydd masnachol, seilwaith olew a nwy, morgludo a mordwyo.

Isod, rydyn ni wedi rhoi trosolwg o ganlyniadau’r asesiadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth fanwl am yr asesiadau a gynhaliwyd a’r canlyniadau dilynol ar gael ym mhenodau 13 (caniatáu masnachol), 14 (morgludiant a mordwyo), 16 (awyrennau a radar) ac 17 (seilwaith a defnyddwyr eraill) yn ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol ac yn y Datganiad Annhechnegol o'r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol yn ein hyb ymgynghori.

Pysgodfeydd masnachol

Mae gweithgarwch pysgota masnachol wedi cael ei nodweddu gan ystadegau glanio, monitro cychod, data gwyliadwriaeth, ac ymgynghori â’r diwydiant pysgota. Ar sail dadansoddiad o leoliad safle’r fferm wynt, disgwylir y bydd y gweithgarwch pysgota’n cael ei ddominyddu gan longau mwy o faint yn chwilota am wichiaid.

Gyda mesurau lliniaru ar gyfer y cyfnod adeiladu, aseswyd mai bach yw effeithiau’r Prosiect. Wrth ystyried cynlluniau a phrosiectau eraill yn yr ardal, bydd angen asesiad pellach.

Bydd y Prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y rhanbarth sy’n ymwneud â physgodfeydd masnachol ac yn ystyried sut gallwn ni liniaru rhagor ar unrhyw effeithiau posibl.

Morgludo a mordwyo

Yn ardal yr astudiaeth, mae data’n dangos bod llongau gwasanaeth sy’n gysylltiedig â'r ffermydd gwynt alltraeth presennol a seilwaith olew a nwy yn gyfrifol am gyfran fawr o symudiadau llongau. Mae llongau mawr sy’n pasio drwy safle’r fferm wynt yn gychod fferi a llongau gwasanaeth yn bennaf, ynghyd â nwyddau masnachol.

Mae llwybrau tanceri yn brin yn safle’r fferm wynt. Cafodd pedwar prif cwmni eu nodi yn nwyrain Môr Iwerddon drwy ein hasesiadau:

  • Isle of Man Steam Packet Company, sy'n gweithredu rhwng Douglas, Lerpwl a Heysham.
  • Seatruck, sy’n gweithredu rhwng Heysham, Lerpwl, Warrenpoint a Belfast.
  • Stena, sy’n gweithredu rhwng Lerpwl, Heysham a Belfast.
  • P&O, sy’n gweithredu rhwng Lerpwl a Dulyn

Delweddau

Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.

Gweld map

Canfu ein hasesiadau y byddai ein Prosiect yn effeithio ar lwybrau fferi Lerpwl i Douglas a Lerpwl i Belfast, ond dim ond llwybr Lerpwl i Belfast fyddai angen pellter teithio ychwanegol o ganlyniad i’r Prosiect. Aseswyd nad oedd effeithiau’r Prosiect yn unig yn arwyddocaol. Fodd bynnag, nodwyd mesurau lliniaru er mwyn lleihau rhagor ar yr effeithiau hyn.

Wrth ystyried y Prosiect gyda chynlluniau eraill a phrosiectau cyfagos, nodwyd effeithiau arwyddocaol. Drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, byddwn ni’n ceisio rhoi mesurau lliniaru addas ar waith ac archwilio mesurau ychwanegol posibl cyn datblygu ein Datganiad Amgylcheddol a chyflwyno ein cais am Orchymyn Cydsyniad Cynllunio.