Gwybodaeth am y Prosiect

Yn y fan agosaf, bydd y Prosiect tua 30km o arfordir Swydd Gaerhirfryn

Pan fydd y fferm wynt yn gwbl weithredol, rhagwelir y bydd yn cynhyrchu capasiti enwol o 480MW ac yn cynhyrchu pŵer adnewyddadwy ar gyfer dros 500,000 o gartrefi yn y DU, yn ogystal â darparu dewis ymarferol yn lle gorsafoedd cynhyrchu ynni sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil.

Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:

  • Cynhyrchu trydan carbon isel o fferm wynt ar y môr i gefnogi datgarboneiddio a diogelwch cyflenwad trydan y DU.
  • Manteisio i’r eithaf ar y capasiti cynhyrchu o fewn cyfyngiadau’r safleoedd a’r seilwaith grid sydd ar gael.
  • Darparu swm arwyddocaol o ynni gwynt ar y môr i gefnogi targed Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050 a’r ymrwymiad i ddarparu hyd at 50 gigawat (GW) o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.
  • Cyfrannu at gyflawni nodau Strategaeth Diogelwch Ynni y DU.

Ein nodau hefyd yw:

  • Cydfodoli a chydweithio â gweithgareddau, datblygwyr a gweithredwyr eraill er mwyn gallu cael cydbwysedd rhwng gwahanol ddefnyddwyr.
  • Cyfrannu at yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol drwy fuddsoddi, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth a seilwaith newydd yn ystod pob cam o’r prosiect.
  • Parhau i gadw costau technegol a datblygu yn isel er mwyn darparu ynni cost isel i ddefnyddwyr a darparu buddion cymunedol er mwyn helpu i gyfrannu at y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd.
  • Cyd-fynd â’r prif ffactorau sy’n sbarduno diweddariadau i bolisïau cenedlaethol.

Mae union gynllun seilwaith y Prosiect yn dal i gael ei ddatblygu ac ni fydd yn cael ei gwblhau’n derfynol nes bydd yr Arolygiaeth Gynllunio ac Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net wedi rhoi caniatâd i’r prosiect. Oherwydd cymhlethdod y Prosiect, mae’n debygol na fyddwn yn gwybod llawer o fanylion ar adeg cyflwyno ein cais, gan gynnwys:

  • Nifer, lleoliad a ffurfweddiad y generaduron tyrbinau gwynt, llwyfannau is-orsafoedd ar y môr ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig.
  • Math o sylfaen i osod y tyrbinau ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig.
  • Union uchder blaen rotorau’r tyrbinau a diamedr y rotorau.

Delweddau

Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.

Gweld map

The application process

The Government classifies major energy projects as Nationally Significant Infrastructure Projects (NSIPs). Permission is granted in line with the national policy guidance set out in the Planning Act 2008.

Read more

Leasing process

In 2021, The Crown Estate announced that it had selected six proposed new offshore wind projects in the waters around England and Wales, through a process known as Offshore Wind Leasing Round 4.

Read more

Next steps

We will consider all the feedback we have received alongside carrying out further technical, engineering and environmental work.

Read more