Sut bydd y Prosiect yn edrych

Rydyn ni'n disgwyl i'r Prosiect gynnwys yr elfennau canlynol:

  • Hyd at 40 o generaduron tyrbinau gwynt
  • Hyd at ddau blatfform is-orsaf ar y môr
  • Ceblau cysylltu (rhyng-gysylltu) platfformau
  • Ceblau rhyng-aráe

Bydd y tyrbinau gwynt a’r platfformau is-orsaf ar y môr wedi’u lleoli ar safle’r fferm wynt alltraeth (a ddangosir isod) ac wedi’u gosod yn sownd i wely’r môr gyda strwythurau sylfaen.

Bydd ceblau rhyng-aráe yn cysylltu’r generaduron tyrbinau gwynt â’i gilydd ac yn cludo ynni adnewyddadwy i’r platfformau is-orsaf ar y môr. Bydd y platfformau’n trosi’r pŵer yn foltedd addas. Yna, bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i’r rhwydwaith trosglwyddo trydan drwy is-orsaf bresennol y National Grid yn Penwortham yn Swydd Gaerhirfryn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr elfen trosglwyddo o’r prosiect a pham mae angen cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar wahân ar gyfer hyn, ewch i transmission.

Bydd generaduron tyrbinau gwynt yn cael eu gosod mewn rhesi. Amcangyfrifir mai tua 990 metr (0.99 cilomedr) yw’r gofod lleiaf rhwng pob Generaduron Tyrbinau Gwynt unigol mewn rhes. Amcangyfrifir mai tua 1,760 metr (1.76 cilomedr) yw'r gofod lleiaf rhwng pob rhes o Generaduron Tyrbinau Gwynt.

Bydd amodau gwely’r môr a phresenoldeb seilwaith presennol yn dylanwadu ar gynllun terfynol y Generaduron Tyrbinau Gwynt o fewn ffin y safle. Gallai hyn arwain at newidiadau yn y bylchau rhwng tyrbinau a rhesi (fel y disgrifir uchod).

Morecambe Generation Assets
Click image to enlarge Pinch to zoom

Diagram dangosol o sut gallai Generaduron Tyrbinau Gwynt nodweddiadol edrych. Gall y dyluniad go iawn fod yn wahanol. Nid yw’r ddelwedd uchod wrth raddfa, ac mae at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Delweddau

Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.

Gweld map
Morecambe Generation Assets
Click image to enlarge Pinch to zoom

Cydrannau Asedau Cynhyrchu Fferm Wynt Alltraeth Morecambe

Mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o’r Prosiect a bydd yn cael ei mireinio cyn cyflwyno ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu. Mae’r niferoedd hyn yn seiliedig ar dybio y bydd 480MW o drydan yn cael ei gynhyrchu.

Ffeithiau cyflym: Generaduron tyrbinau gwynt
  • Nifer arfaethedig y generaduron tyrbinau gwynt: hyd at 40
  • Diamedr y rotor arfaethedig: rhwng 220 a 300 metr
  • Uchafswm uchder uchaf arfaethedig y tyrbin gwynt: 345 metr uwchlaw’r distyll astronegol uchaf
  • Ystod cyflymder rotor enghreifftiol: rhwng 6 a 10 cylchdro y funud (RBM)
  • Cliriad rotor isaf uwchben lefel y môr: 22 metr
Ffeithiau cyflym: Platfformau is-orsaf ar y môr
  • Uchafswm arfaethedig nifer y platfformau is-orsaf ar y môr: 2
  • Uchafswm arfaethedig lled y rhan (ystyr ‘rhan uchaf’ yw’r deciau sy’n cael eu cynnal gan y strwythur sylfaen y caiff y cyfarpar ei osod arno): 55 metr
  • Hyd mwyaf y rhan uchaf arfaethedig: 80 metr
  • Pwynt uchaf y rhan uchaf arfaethedig (uwchlaw’r distyll astronomegol isaf), heb gynnwys y lanfa i hofrenyddion a’r deunydd amddiffyn rhag mellt: 115 metr
Ffeithiau cyflym: Ceblau rhyng-aráe
Mae’r rhain yn cael eu gosod i gysylltu Generaduron Tyrbinau Gwynt unigol a hefyd i gysylltu generaduron y tyrbinau gwynt â’r platfformau is-orsaf ar y môr.
  • Uchafswm lled arfaethedig yr aflonyddwch o ganlyniad i baratoi, gosod a chladdu ceblau rhyng-aerau o dan wely’r môr: 25 metr
  • Ystod dyfnder arfaethedig ar gyfer claddu ceblau rhyng-aráe: 0.5 i 3 metr (dyfnder targed o 1.5m)
  • Uchafswm hyd ceblau rhyng-arae yw 110km. Ar y mwyaf, rydyn ni'n rhagweld y bydd angen i 10% o’r cebl gael ei ddiogelu a chebl oherwydd cyflwr y tir (11km).
Ffeithiau cyflym: Ceblau cysylltu (rhyng-gysylltu) platfformau
Os bydd angen dau blatfform is-orsaf ar y môr ar gyfer y prosiect, bydd angen ceblau cysylltu platfformau i gysylltu pob platfform er mwyn gallu trosglwyddo trydan. Byddai'r rhain hefyd yn sicrhau bod modd parhau i drosglwyddo trydan os digwydd i gebl neu blatfform fethu’n annisgwyl.
  • Uchafswm arfaethedig nifer y ceblau (a'r ffosydd): 2
  • Hyd mwyaf arfaethedig y cebl (fesul cebl):5 cilometr
  • Cyfanswm hyd ceblau cysylltu platfformau yw 10km. Ar y mwyaf, rydyn ni'n rhagweld y bydd angen i 10% o’r cebl gael ei ddiogelu oherwydd cyflwr y ddaear (1km).

Am fwy o wybodaeth ar sut ydym ni rydym yn bwriadu adeiladu'r Prosiect, edrychwch yn ein Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol ar ein hyb ymgynghori.