Sut bydd y Prosiect yn edrych
Rydyn ni'n disgwyl i'r Prosiect gynnwys yr elfennau canlynol:
- Hyd at 40 o generaduron tyrbinau gwynt
- Hyd at ddau blatfform is-orsaf ar y môr
- Ceblau cysylltu (rhyng-gysylltu) platfformau
- Ceblau rhyng-aráe
Bydd y tyrbinau gwynt a’r platfformau is-orsaf ar y môr wedi’u lleoli ar safle’r fferm wynt alltraeth (a ddangosir isod) ac wedi’u gosod yn sownd i wely’r môr gyda strwythurau sylfaen.
Bydd ceblau rhyng-aráe yn cysylltu’r generaduron tyrbinau gwynt â’i gilydd ac yn cludo ynni adnewyddadwy i’r platfformau is-orsaf ar y môr. Bydd y platfformau’n trosi’r pŵer yn foltedd addas. Yna, bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i’r rhwydwaith trosglwyddo trydan drwy is-orsaf bresennol y National Grid yn Penwortham yn Swydd Gaerhirfryn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr elfen trosglwyddo o’r prosiect a pham mae angen cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar wahân ar gyfer hyn, ewch i transmission.
Bydd generaduron tyrbinau gwynt yn cael eu gosod mewn rhesi. Amcangyfrifir mai tua 990 metr (0.99 cilomedr) yw’r gofod lleiaf rhwng pob Generaduron Tyrbinau Gwynt unigol mewn rhes. Amcangyfrifir mai tua 1,760 metr (1.76 cilomedr) yw'r gofod lleiaf rhwng pob rhes o Generaduron Tyrbinau Gwynt.
Bydd amodau gwely’r môr a phresenoldeb seilwaith presennol yn dylanwadu ar gynllun terfynol y Generaduron Tyrbinau Gwynt o fewn ffin y safle. Gallai hyn arwain at newidiadau yn y bylchau rhwng tyrbinau a rhesi (fel y disgrifir uchod).
Diagram dangosol o sut gallai Generaduron Tyrbinau Gwynt nodweddiadol edrych. Gall y dyluniad go iawn fod yn wahanol. Nid yw’r ddelwedd uchod wrth raddfa, ac mae at ddibenion enghreifftiol yn unig.
Delweddau
Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.
Gweld mapCydrannau Asedau Cynhyrchu Fferm Wynt Alltraeth Morecambe
Mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o’r Prosiect a bydd yn cael ei mireinio cyn cyflwyno ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu. Mae’r niferoedd hyn yn seiliedig ar dybio y bydd 480MW o drydan yn cael ei gynhyrchu.
Ffeithiau cyflym: Generaduron tyrbinau gwynt | |||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
||||||||||
Ffeithiau cyflym: Platfformau is-orsaf ar y môr | |||||||||||
|
|
||||||||||
Ffeithiau cyflym: Ceblau rhyng-aráe | |||||||||||
Mae’r rhain yn cael eu gosod i gysylltu
Generaduron Tyrbinau Gwynt unigol a hefyd
i gysylltu generaduron y tyrbinau gwynt â’r
platfformau is-orsaf ar y môr.
|
|
||||||||||
Ffeithiau cyflym: Ceblau cysylltu (rhyng-gysylltu) platfformau | |||||||||||
Os bydd angen dau blatfform is-orsaf ar y
môr ar gyfer y prosiect, bydd angen ceblau
cysylltu platfformau i gysylltu pob platfform
er mwyn gallu trosglwyddo trydan. Byddai'r
rhain hefyd yn sicrhau bod modd parhau i
drosglwyddo trydan os digwydd i gebl neu
blatfform fethu’n annisgwyl.
|
|
Am fwy o wybodaeth ar sut ydym ni rydym yn bwriadu adeiladu'r Prosiect, edrychwch yn ein Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol ar ein hyb ymgynghori.